Polisi Preifatrwydd
Cartref > Polisi Preifatrwydd
Mae Olifani yn deall bod eich preifatrwydd yn bwysig i chi. Rydym yn gwerthfawrogi preifatrwydd pob un o'n cwsmeriaid ac rydym yn ymrwymedig i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich Data Personol. Byddwn ond yn casglu ac yn defnyddio Data Personol yn y ffyrdd sydd wedi'u disgrifio yn yr hysbysiad hwn, ac yn gwneud hynny bob amser yn unol â'n goblygiadau ni a'ch hawliau chi o dan y gyfraith.
Cyflwyniad
Ein cyfeiriad: Parc Cefni, Bodffordd, Ynys Mon, LL777PJ
E-bost: info@olifani.com
Drwy gydol yr hysbysiad preifatrwydd hwn, byddwn yn cyfeirio at Ddeddfwriaeth Diogelu Data sef Deddf Diogelu Data 2018, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r Deyrnas Unedig (“y GDPR”), a Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig 2003.
Beth mae'r hysbysiad hwn yn ei gwmpasu?
Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn esbonio pa Ddata Personol rydym yn eu casglu gennych a sut rydym yn eu defnyddio: y ffordd y cânt eu casglu, y ffordd y cânt eu cadw a'r ffordd y cânt eu prosesu. Mae hefyd yn esbonio eich hawliau mewn perthynas â'ch Data Personol.
Beth yw Data Personol?
Diffinnir y GDPR Data Personol fel unrhyw wybodaeth sy'n berthnasol i unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol yn arbennig wrth gyfeirio at ddyfais adnabod. Yn syml, Data Personol yw unrhyw wybodaeth amdanoch chi sy'n galluogi i rywun eich adnabod. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt.
Pa Ddata Personol rydym yn eu casglu a sut?
Pan fyddwch chi’n archebu trwy ein gwefan bydd y Data Personol canlynol yn cael eu gasglu oddi wrthych: eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, cyfeiriad a manylion talu.
Data Personol Eraill: Mae'n bosibl y byddwn yn casglu Data Personol ychwanegol y gallai fod eu hangen arnom er mwyn darparu gwasanaeth rydych wedi gofyn amdano neu i gydymffurfio â goblygiad cyfreithiol.
Os byddwch yn archebu gyda ni drwy’r ein system archebu ar-lein, gall eich Data Personol cael eu gasglu ar ein rhan gan system archebu a rheoli trydydd parti.
Pan fyddwch yn talu am ein nwyddau, bydd eich taliad yn cael ei brosesu gan prosesydd taliadau trydydd parti, sy'n casglu, defnyddio a phrosesu eich gwybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth talu, yn unol â'i polisi preifatrwydd eu hun.
Gallwn hefyd gasglu Data Personol gennych chi yn uniongyrchol drwy’r wefan hon, drwy e-bost neu dros y ffôn neu, o bryd i'w gilydd, wyneb yn wyneb.
Mae'n bwysig eich bod yn sicrhau bod eich Data Personol yn gywir ac yn gyfredol. Os bydd unrhyw Ddata Personol a ddelir gennym amdanoch yn newid, cofiwch roi gwybod i ni.
Sut rydym yn defnyddio eich Data Personol?
Mae'n rhaid bod gennym sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio Data Personol bob amser.
Mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio eich Data Personol at y dibenion canlynol:
-
Cyfathrebu â chi er mwyn darparu'r gwasanaeth rydych wedi gofyn amdano o dan gontract neu gymryd camau ar eich cais chi cyn ymrwymo i gontract
-
Cadw ein cyfrifon a'n cofnodion ein hunain • Cydymffurfio â goblygiad cyfreithiol neu mewn achosion llys
-
Eich hysbysu, gyda'ch caniatâd a/neu lle y caniateir gan y gyfraith, ynghylch newyddion, cynigion a newidiadau i'n gwasanaethau. Byddwn bob amser yn cydymffurfio â'n goblygiadau o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data ac mae gennych yr hawl i ofyn i ni roi'r gorau i gysylltu â chi at ddibenion marchnata ar unrhyw adeg.
-
Mewn unrhyw ffordd arall lle rydych wedi rhoi eich caniatâd ar gyfer y diben penodol hwnnw.
Ni fyddwn yn rhannu eich Data Personol â thrydydd partïon at ddibenion marchnata.
 phwy y byddwn yn rhannu eich Data Personol?
Ni fyddwn yn rhannu unrhyw rai o'ch Data Personol gydag unrhyw drydydd parti at unrhyw ddiben, ac eithrio fel y nodir yn y polisi hwn ac yn y ffyrdd canlynol:
Mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig, mae'n bosibl y bydd yn ofynnol o dan y gyfraith i ni rannu Data Personol penodol, a all gynnwys eich Data chi, os byddwn yn rhan o unrhyw achos llys neu i gydymffurfio â'n goblygiadau cyfreithiol.
Beth yw eich hawliau?
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:
a) Yr hawl i gael gwybod sut rydym yn defnyddio eich Data Personol. Dylai'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn gynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch, ond gallwch gysylltu â ni os bydd gennych unrhyw gwestiynau am eich Data Personol a'n defnydd ohonynt.
b) Yr hawl i gael copi o'r Data Personol a ddelir gennym amdanoch. Dylid gwneud unrhyw geisiadau yn ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost a ddarperir. c) Yr hawl i gywiro eich Data Personol os byddant yn anghywir neu'n anghyflawn.
d) Yr hawl i gael eich anghofio, h.y. yr hawl i ofyn i ni ddileu neu waredu unrhyw Ddata Personol o'ch eiddo a ddelir gennym. e) Yr hawl i gyfyngu ar y gwaith o brosesu eich Data Personol.
f) Yr hawl i wrthwynebu i ni ddefnyddio eich Data Personol at ddiben penodol.
g) Yr hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl. Mae hyn yn golygu, os byddwn yn dibynnu ar eich caniatâd fel y sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich Data Personol, mae croeso i chi dynnu'r caniatâd hwnnw yn ôl ar unrhyw adeg.
h) Yr hawl i gael gafael ar eich Data Personol er mwyn eu trosglwyddo'n uniongyrchol i reolydd data arall (gelwir hyn yr hawl i gludadwyedd data) Mae'r hawl hwn ond yn berthnasol pan fyddwn yn prosesu eich Data Personol gyda'ch caniatâd neu ar gyfer cyflawni contract gyda chi, ac yn y naill achos a'r llall, rydym yn prosesu'r data drwy ddefnyddio dulliau awtomataidd.
i) Hawliau sy'n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio. Ni fyddwn yn defnyddio eich Data Personol yn y ffordd hon.
j) Yr hawl i gyflwyno cwyn gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Fodd bynnag, byddem yn croesawu'r cyfle i ddatrys eich pryderon ein hunain, felly cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.
Am faint o amser y byddwn yn cadw eich Data Personol?
Ni fyddwn yn cadw eich Data Personol am fwy o amser nag sydd ei angen yn sgil y rhesymau dros eu casglu yn y lle cyntaf.
Byddwn yn cadw eich Data Personol gyhyd ag y bydd gennym gontract gyda chi er mwyn darparu ein gwasanaethau neu gyhyd ag y bydd gennym ddiben busnes arall dros wneud hynny.
Mae'n bosibl y byddwn yn cadw eich Data Personol am gyfnod hirach os bydd angen defnyddio eich Data Personol ar gyfer achosion llys gwirioneddol neu bosibl neu os bydd unrhyw ddyletswydd reoliadol arall arnom i wneud hynny.
Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Gallwn newid yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn o bryd i'w gilydd. Gall hyn fod yn angenrheidiol, er enghraifft, os yw'r gyfraith yn newid, neu os byddwn yn newid ein harferion busnes mewn ffordd sy'n effeithio ar ddiogelu data personol.
Bydd unrhyw newidiadau i'w gweld ar ein gwefan.
Manylion cyswllt:
Er mwyn arfer yr holl hawliau perthnasol, neu os oes gennych ymholiadau neu gwynion, cysylltwch â info@olifani.com
