Siampŵ bar lemwn
Catref > Siop > Siampŵ bar lemwn
£9.00
Siampŵ bar lemwn
Bar siampŵ lemwn.
Bariau siampŵ syndet wedi e'u crefftio a llaw. Yn cynnwys cynhwysion sydd yn maethu y gwallt - sylfaen cnau coco (ym rhoi trochion gwych), panthenol, ffytokeratin, dipyn o olew olif organic, olew argan a olew jojoba euraidd.
Trochiwch yn y dwylo a wedyn rwbio fewn i'r gwallt neu rhowch y bar a'r y gwallt gwlyb am cwpwl o munudau. Rinsiwch allan a dŵr.
Rhwng defnyddio y bar siampŵ os ydach yn cadw y bar yn sych mewn dysgl draenio/silff neu tun - mi wneith y bar parha yn hirach.
Mae 1 bar yn rhoi llawer o siampŵ's.
I'w ddefnyddio yn allanol yn unig. Ddim i'w ddefnyddio o gwmpas y llygadau, pilenni mwcaidd neu ar croen wedi torri. Os yw henynfa yn digwydd stopiwch ei ddefnyddio.
Bariau siampŵ solet - yn rhydd o parabens a dim SLS.
Mae nhw yn rhoi profiad glanhau gwallt effeithiol - addas ar gyfer pob math o wallt. Gellir ei defnyddio bob dydd ac yn ddelfrydol ar gyfer teithio.
Olew hanfodol sitrws lemwn. Dim persawr synthetig yn cael ei ddefnyddio.
Mae bariau siampŵ yn gyffeillgar i'r amgylchedd - dim plastig ac mae 1 bar yn parha yn hir. Glanhau a maethu y gwallt i edrych yn iach.
Mae y bar siampŵ yn dod wedi eu pecynnu mewn pecyn bioddiraddadwy.
Hawdd i'w defnyddio; dim hylifau - cymryd i'r gym, spa neu adra.
Siampŵ gorau - gwobr efydd yn y gwobrau Harddwch Naturiol Rhieni Gwyrdd 2024 - digwyddiad blynyddol ymroddedig i gydnabod a dathlu cynaliadwyedd a rhagoriaeth mewn harddwch gwyrdd.
Pwysau lleiafswm = 55 gm.
Mae y cynhwysion i gyd wedi ei cynnwys ar y label.
Alergenau - citral, limonene.